Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

QW 25

Bil Cymwysterau Cymru

Tystiolaeth gan : Undeb Cenedlaethol Athrawon (UCAC)

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1 – Oes angen Bil at y dibenion hyn?     

 

Oes. Mae UCAC yn croesawu Bil sydd yn creu corff annibynnol ar gyfer rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru a symud y rôl o ddwylo Llywodraeth Cymru. Rydym wedi hir ddadlau ei fod yn anaddas i Lywodraeth Cymru (neu unrhyw Lywodraeth), sydd yn gosod polisi addysg a chymwysterau, fod yn rheoleiddio cymwysterau oherwydd y perygl amlwg o wrthdaro buddiannau ac o ddylanwad negyddol cystadleuaeth wleidyddol fewnol a thraws-ffiniol ar hygrededd y gyfundrefn.

 

Mae angen sicrhau bod y corff yn annibynnol o Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, er yn derbyn cylch gwaith ganddi. Rydym o’r farn bod corff o’r fath yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cymwysterau â hygrededd a bod ffydd gan ymarferwyr, rhanddeiliaid, a phobl Cymru yn y system rheoleiddio.

 

Mae'n bwysig cael Bil i osod statws cyfreithiol i'r corff ac i amlinellu'n gadarn materion o bwys a'u gosod ar sail statudol.

 

Os ydych yn credu bod angen y Bil, beth yw’r prif faterion y mae angen ymdrin â nhw?

 

Sicrhau:

·         cyfundrefn cymwysterau o safon uchel gyda chymwysterau amrywiol ar gyfer darparu cyfleoedd addas i ddysgwyr yng Nghymru

·         bod hygrededd i gymwysterau o fewn Cymru ac yn rhyngwladol

·         hygludedd cymwysterau o fewn Cymru ac yn rhyngwladol

·         bod y system gymwysterau yn ateb gofynion Cymru, e.e. wrth ddethol  yr arlwy o gymwysterau i'w cymeradwyo, y rhoddir ystyriaeth i'r farchnad lafur yng Nghymru, anghenion ymchwil Cymru yn y sector addysg uwch, materion diwylliannol ac ieithyddol megis pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle

·         bod Cymwysterau Cymru ei hun yn gorff dwyieithog a'i bod yn sicrhau bod y gyfundrefn yn ddwyieithog gyda digon o adnoddau Cymraeg yn cael eu comisiynu i gefnogi cymwysterau'r un fath ( ac yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd) ac adnoddau cyfrwng Saesneg

·         nad yw dysgwyr presennol yn cael eu hanfanteisio (neu'n teimlo'u bod yn cael eu hanfanteisio) oherwydd sefydlu'r corff newydd neu yn ystod cyfnod trosiannol

·         bod trefniadau clir i gyfathrebu gyda rhanddeiliad a bod cymwysterau Cymru'n sicrhau bod athrawon a darlithwyr yn cael mynediad at ddatblygiad proffesiynol o safon uchel er mwyn diwallu anghenion eu disgyblion wrth baratoi ar gyfer cymwysterau allanol

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

·         cyfundrefn cymwysterau o safon uchel gyda chymwysterau amrywiol ar gyfer darparu cyfleoedd addas i ddysgwyr yng Nghymru

·         bod hygrededd i gymwysterau o fewn Cymru ac yn rhyngwladol a bod hygludedd i gymwysterau o fewn Cymru ac yn rhyngwladol

·         Mae angen sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae ystod eang o bynciau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg gyda nifer cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf o gyrsiau galwedigaethol ychwanegol yn dilyn cyflwyno'r Mesur Dysgu a Sgiliau, er bod rhai darparwyr yn araf i ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fod yn gwbl ganolog i unrhyw gyfundrefn newydd.  Mae lle i wella eto ar  ddeunyddiau Cymraeg a phrydlondeb eu cyhoeddi. Credwn fod angen cynllunio i sicrhau bod Cymwysterau Cymru'n gorff dwyieithog sy'n gweithredu'n ddwyieithog ac sydd yn cynnig gwasanaeth dwyieithog

·         bod trefniadau clir i gyfathrebu gyda rhanddeiliad a bod cymwysterau Cymru'n sicrhau bod athrawon a darlithwyr yn cael mynediad at ddatblygiad proffesiynol o safon uchel er mwyn diwallu anghenion eu disgyblion wrth baratoi ar gyfer cymwysterau allanol

 

Mae'n holl bwysig sicrhau'r materion hyn er mwyn gwarantu safonau a chyfleoedd pwysig i ddysgwyr ym mhob sector Nghymru.

 

§    1

·         nad yw dysgwyr presennol yn cael eu hanfanteisio (neu'n teimlo'u bod yn cael eu hanfanteisio) oherwydd sefydlu'r corff newydd neu yn ystod cyfnod trosiannol

 

 

§    2

§    3 -Sicrhau annibyniaeth Cymwysterau Cymru. Mae angen sicrhau hygrededd i rôl y Rheoleiddiwr ac yn sgil hyn i gymwysterau yng Nghymru. Mae hyn yn holl bwysig ond bydd y Bil yn mynd i'r afael â'r mater o annibyniaeth a dyma'r unig reswm am ei ddiffinio fel problem fach.

§     

4

§     

Cwestiwn 2 - A ydych yn credu bod y Bil, fel y'i drafftiwyd, yn cyflawni'r amcanion a nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol?  

Ydy.

Mae’r Bil, ar y cyfan, yn cyflawni'r amcanion a nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol, e.e. materion sefydlu'r corff fel corff annibynnol, a’r angen i ddiwallu anghenion y dysgwr. Credwn ei fod yn holl bwysig ein bod yn sicrhau corff annibynnol, ac mae’r amlinelliad a welwn o ran y berthynas rhwng y Llywodraeth, y Cynulliad a’r corff yn cynnig model all weithio yn hyn o beth.  

 

Ar y llaw arall, rydym  yn gryf o’r farn fod angen sicrhau bod Cymwysterau Cymru yn rhoi'r sylw dyledus ac angenrheidiol i ‘hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys drwy argaeledd trefniadau asesu sy’n darparu ar gyfer asesu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac argaeledd cymwysterau sydd fel arall yn hyrwyddo neu’n hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg;’ fel y’i gwelir yn Rhan 2 - 3(2)(b).

Sonnir yn y Bil am ddymunoldeb (desirability) gwneud hyn. Rhaid pwysleisio na all hyn fod yn ‘ddymunol’ yn unig; mae'n angenrheidiol o ran i) corff fydd yn gwasanaethu Cymru ac o ran ii) cymwysterau blaenoriaethol, cenedlaethol. Ni all y system bresennol sy’n anfanteisio darparwyr, addysgwyr ac ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg mewn rhai cymwysterau, yn enwedig y rhai galwedigaethol, barhau. Mae angen, felly cryfhau'r elfen yma'r o'r Bil fel bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn elfen fwy creiddiol ar wyneb y Bil.

 

Rydym yn cydnabod, yn ogystal, bod posibl i gorff newydd o’r fath, drwy reoleiddio cymwysterau i Gymru yn unig, anfanteisio myfyrwyr yng Nghymru drwy beidio â sicrhau hyder a chymwysterau cyfatebol i wledydd eraill. Er hyn, rydym yn ffyddiog fod y Bil yn rhoi’r cyfle i’r corff ddatblygu cymwysterau addas, heriol a chyfatebol.

 

Mae ymgais yn y Bil i ddiogelu myfyrwyr, hefyd, yn ystod y cyfnod trosiannol.

 

Mae'r memorandwm yn esbonio'r bwriad i rannu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymwysterau Cymru i ddau ran - sef y bwriad o greu corff rheoleiddio a gynhwysir yn y Bil a'r bwriad yn y dyfodol i ddatblygu pwerau dyfarnu. Nid yw hyn yn rhan o'r Bil, wrth gwrs, ac mae UCAC yn achub y cyfle i fynegi ein bod dal yn bryderus ynghylch y bwriad i drosglwyddo pwerau dyfarnu ymhen amser. Nid ydym yn ei gweld hi'n addas i gyfuno pwerau dyfarnu gyda'r cyfrifoldeb o sicrhau ansawdd. Mae'r cyfuniad o gyfrifoldebau 'rheoleiddio + dyfarnu' yr un mor beryglus, ac yn meddu ar yr un potensial i fod yn niweidiol â'r cyfuniad o 'reoleiddio + creu polisi' addysg sydd gennym ar hyn o bryd.

 

Mae’r categori o gymwysterau a elwir yn gymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig yn sicr yn un ffordd glir o sicrhau cymwysterau/data cymharol deg o ran cymwysterau yn ein gwlad; er, yn amlwg mai un corff dyfarnu yn unig, ar hyn o bryd, all sicrhau fod pob amcan o ran cymhwyster yn cael ei gyflawni.

 

Noder mai ennill brwydr wleidyddol yn y wasg yw’r unig ffordd o sicrhau hyder yn y system gymwysterau yng Nghymru, ac mai annheg yw dweud mai ‘prif faen prawf ar gyfer mesur llwyddiant y ddeddfwriaeth hon yw’r hyder sy’n cael ei feithrin ymhlith y cyflogwyr, y darparwyr addysg uwch, y rheini sy’n darparu’r cymwysterau, y dysgwyr a’r cyhoedd yn ehangach, yn y system gymwysterau yng Nghymru.’

 

Os na, sut rydych yn meddwl y dylid newid y Bil?

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     

Cwestiwn 3 - A yw adrannau'r Bil, fel y'u drafftiwyd, yn briodol i gyflawni'r amcanion a ddisgrifir uchod? 

 

Ydynt ar y cyfan ond mae angen cryfhau'r geiriad mewn mannau, e.e. pan sonnir am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg (gweler cwestiwn 2).

 

Os na, sut rydych yn meddwl y dylid newid y Bil?

 

Mae angen cryfhau'r geiriad mewn mannau, e.e. pan sonir am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     

Cwestiwn 4 - A yw Llywodraeth Cymru wedi nodi'r pedwar prif gyfyngiad yn gywir ar gyfer y trefniant cyfredol ac a fydd y ddau brif nod y mae'r Bil yn eu pennu ar gyfer Cymwysterau Cymru, yn ogystal â'r wyth mater y mae'n rhaid iddo eu hystyried wrth gyflawni ei swyddogaethau, yn mynd i'r afael yn effeithiol â'r cyfyngiadau hyn?

 

Ydy, ar y cyfan.  Nodwn fod y memorandwm Esboniadol yn cydnabod bod y rhestr o wyth brif faes yn rhestr anghyflawn, ond mae'r ddau brif nod a'r rhestr yn mynd i'r afael ar y cyfan â'r pedwar prif gyfyngiad ar gyfer y trefniant cyfredol, er bod lle, efallai i roi mwy o bwyslais ar y dysgwr yn y rhestr. Gellir ychwanegu yn Rhan 2 2(c) "... cymwysterau sydd ar gael ar gyfer y dysgwr, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol.."

 


 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys?

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

 

Cwestiwn 5 - Beth yw eich barn ar y cynigion ar gyfer penderfynu ar 'gymwysterau blaenoriaethol' ac, o fewn y rhain, 'cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig'?

 

Rydym yn derbyn yr angen, ac yn deall y rhesymeg am y categorïau hyn. Rydym yn derbyn fod y cynigion yn rhai addas. Er hyn, credwn yn gyffredinol y byddai’n fanteisiol i gynnig amrediad eang, addas o gymwysterau i ymgeiswyr yng Nghymru lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys?

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     


 

Cwestiwn 6 - Beth yw eich barn ar y broses gomisiynu y byddai Cymwysterau Cymru yn ei defnyddio o dan y Bil, yng nghyswllt cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig?

 

 

Rydym yn ansicr am rai elfennau o'r broses.  Mae'r Bil yn ymddangos fel petai'n mynd i’r afael â’r amcanion a materion angenrheidiol, yn enwedig o ran sicrhau cyfatebiaeth ond mae angen sicrhau bod dilyniant addas.

 

Efallai bod cyfyngu i un darparwr o gymhwyster yn gallu creu heriau gwahanol.  Mae cwestiynau'n codi o ran cael monopoli; hefyd a oes perygl bod Llywodraeth Cymru yn gallu dylanwadu gormod ar y dulliau asesu ar gyfer pwnc os mai un darparwr sydd? Ar y llaw arall, efallai bydd y sectorau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg mewn sefyllfa debyg am y tro cyntaf o ran dewis cyrsiau ac ansawdd cefnogaeth ac adnoddau.

 

Bydd angen sicrhau digon o amser o ran comisiynu. Er mwyn sicrhau amser i ddatblygu cymwysterau o ansawdd mewn da bryd.

 

Mae'n ymddangos bod cyfle i'r farchnad yn y Bil ond nid yw'n hollol eglur sut bydd hyn yn gweithio'n ymarferol.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys?

 

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 7 - Sut y bydd y Bil yn newid yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar hyn o bryd, a pha effaith y bydd newidiadau o'r fath yn ei chael, os o gwbl?

 

 

Er gwaetha’r honiad ‘nad yw'r gystadleuaeth yn debygol o ddioddef o gwbl o fewn y farchnad gymwysterau’, mae’n amlwg y daw'r farchnad cymhwysterau i ben yng Nghymru i bob pwrpas. Y ffaith syml amdani mai un corff yn unig (fel y mae ar hyn o bryd) fydd yn gallu cyflawni holl amcanion y ddeddf, yn benodol yr angen ‘i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;’ a’r mater o ‘Hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gan gynnwys drwy gynnig trefniadau asesu yn y Gymraeg, a chymwysterau sy'n hyrwyddo neu'n hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn ffyrdd eraill’. Nid ydym yn gweld unrhyw reswm i wrthwynebu hyn, ac yn wir, oherwydd pa mor hanfodol yw darparu i ddwy iaith ein gwlad  nid ydym yn anghytuno â hyn.  Ymhellach, rydym yn gweld manteision i  ddeddfu i sicrhau nifer gyfyngedig o ddarparwyr mewn un cymhwyster, oherwydd ein bod yn awyddus i weld cymhwysterau cyfwerth a bod modd cymharu canlyniadau. 

 

Mae’n anorfod y bydd y bil yn cael effaith mawr ar ysgolion sydd ar hyn o bryd yn cael dewis o blith sawl darparwr o gymhwyster. Mae’n wir na fydd mwyafrif ein haelodau yn cael ei handwyo yn hyn o beth, mae’r sefyllfa fel y mae yn flêr, yn enwedig o ran ceisio cymharu cymhwysterau. Rydym yn cefnogi’r newid a gynigir.

 

Rydym yn cydnabod ei fod yn ‘destun pryder cyffredinol y dylai cyrsiau Cymwysterau Cymru gael eu parchu ar draws ei ffiniau, yn enwedig yn Lloegr, lle mae llawer o fyfyrwyr Cymru am fynd i gael addysg neu gyflogaeth.’ Er hyn, rydym yn hapus bod Llywodraeth Cymru yn deddfu i sicrhau fod system addysg wahanol yn cael ei ddarparu yng Nghymru i ddiwallu anghenion gwahanol i Gymru. Nid ydym yn derbyn fod angen gweld ‘effaith negyddol mewn perthynas ag ymarferoldeb astudio am gymwysterau Cymru a'u hennill yn agos iawn i'r ffin lle mae carfanau o ddarpar myfyrwyr neu gyflogeion yn dod o ddwy system gymwysterau wahanol, a lle byddai unrhyw ddiffyg parch at gymwysterau Cymru yn anfantais i ddysgwyr Cymru. Ceir cyfle yma i gynnig cymwysterau sy’n herio ac sydd yn cael eu cydnabyddiaeth yn rhyngwladol. Yr her yw marchnata mewn modd effeithiol.

 

Gallwn ond gweld deilliannau cadarnhaol o ran y sefydliadau hynny sydd yn defnyddio’r Gymraeg. Yr unig ffordd y gallwn sicrhau ‘Iaith fyw:iaith byw’ a sicrhau bod rhaid ‘rhoi sylw i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gan gynnwys drwy gynnig trefniadau asesu yn y Gymraeg, a chymwysterau sy'n hyrwyddo neu'n hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn ffyrdd eraill’ a ‘Hyrwyddo cymwysterau Cymraeg a hwyluso'r ffordd i ddysgwyr eu dilyn’ yw drwy sicrhau corff gwbl ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf. Bydd hyn yn gam mawr cadarnhaol ymlaen. 

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys?

 

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 8 - Beth yw'r rhwystrau posibl i roi darpariaethau'r Bil ar waith (os o gwbl), ac a yw'r Bil yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt?

 

 

Nid ydym o’r farn fod rhwystrau mawr, ac rydym yn cydnabod bod ystyriaeth ddigonol wedi ei roi i geisio sicrhau annibyniaeth y corff.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys?

 

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 9 - A oes gennych farn ynghylch y modd y daw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

 

 

Rydym yn derbyn ei fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cymru, ac yn falch ei fod.

 

 

Cwestiwn 10 - Beth yw eich barn ar y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (hynny yw, offerynnau statudol, gan gynnwys rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddiadau)?

 

Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae'n bosibl y byddwch am ystyried Adran 5 o'r Memorandwm Esboniadol, sy'n cynnwys tabl yn crynhoi'r pwerau a fydd yn cael eu dirprwyo i Weinidogion Cymru yn y Bil i wneud gorchmynion a rheoliadau, ac ati.

 

Nid oes gennym wrthwynebiad o ran y pwerau a roddir. Rydym yn cydnabod y bydd rhaid rhoi peth pwerau statudol i Weinidogion. Dylid ymgynghori'n llawn ar unrhyw is-ddeddfwriaeth a chanllawiau.

 

Cwestiwn 11 - Beth yw eich barn ar oblygiadau ariannol y Bil?

 

Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae'n bosibl y byddwch am ystyried Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy'n cynnwys amcangyfrif o'r costau a'r buddion sy'n gysylltiedig â rhoi'r Bil ar waith.

 

Rhaid wrth gorff annibynnol, sy’n rheoleiddio’n effeithiol, y lleiaf o ymyrryd gwleidyddol, y gorau. Cytunwn yn gryf â’r gosodiad ‘Byddai cael gwared â swyddogaeth rheoleiddio cymwysterau (cyffredinol a galwedigaethol) yng Nghymru o'r Llywodraeth yn cael gwared ag unrhyw ganfyddiad o ymyrraeth wleidyddol wrth wneud penderfyniadau rheoleiddio yng Nghymru.’ Ymhellach, nid ydym yn gweld y sefyllfa bresennol o ran rheoleiddio yn dderbyniol, ac yn awyddus i weld lleihad yn rôl ac ymyrraeth Ofqual cyn gynted a bo’r capasiti yma yng Nghymru i weithredu. Dyma’r unig ffordd y gallwn weld cymhwysterau sy’n ateb gofynion Cymru. Mae’n bwysig dros ben ein bod yn cael ‘llais arbenigol clir a brand cydnabyddedig’ i ddiwallu’r anghenion. Felly, yr opsiwn a ffafrir yw opsiwn 3 opsiwn, sef yr unig wir opsiwn ac nid yw’r costau ychwanegol yn or-feichus nac yn afresymol.

 

Rydym yn awyddus i weld Cynulliad a Llywodraeth Cymru'n rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol, felly nid yw’r opsiwn o ymateb i newid yn ddigon da.

 

Er hyn, hoffem ail-ddatgan yn glir nad ydym yn awyddus i weld corff rheoleiddio yn dyfarnu yn ogystal. Rhaid wrth wahanu cyfrifoldebau’n glir er mwyn sicrhau system agored.

 

Cwestiwn 12 - A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am rannau penodol o'r Bil?

 

Rydym yn bryderus am gostau uchel cynyddol sydd wedi taro ysgolion a cholegau dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn iddynt gofrestru myfyrwyr ar gyfer cymwysterau.  Rydym yn awyddus i sicrhau bod unrhyw ffioedd gan Cymwysterau Cymru yn rhai sydd wir yn angenrheidiol eu codi, er mwyn i Fyrddau dyfarnu allu cadw ffioedd i lawr ar gyfer ysgolion a cholegau.

 

Ydy'r Bil yn gwahaniaethu digon rhwng rôl y rheoleiddiwr ar gyfer cymwysterau ag unrhyw gyfrifoldeb posib i wneud gwaith ymchwil?

 

Ydy rôl y Cynulliad Cenedlaethol yn ddigon cryf i sicrhau atebolrwydd Cymwysterau Cymru fel Corff?